Logo Cyngor Celfyddydau Cymru

Adolygiad Buddsoddi 2023

Ffurflen Apelio

Rhagfyr 2022

Logo Noddir gan Lywodraeth CymruLogo yn dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol

Hygyrchedd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras, Braille, ar dâp sain ac ar ffurf Iaith Arwyddion Prydain. Byddwn yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg ar gais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu polisi cyfle cyfartal.

Logo hyderus o ran anabledd


 

Adran 1: Am eich sefydliad

Enw eich sefydliad:

Click or tap here to enter text.

Cyfeiriad:

Click or tap here to enter text.

Rhif ffôn:

Click or tap here to enter text.

E-bost:

Click or tap here to enter text.

Enw a swydd y cynrychiolwyr a ymddengys os digwydd gwrandawiad:

Click or tap here to enter text.


 

Adran 2: Sut i lenwi'r ffurflen Apelio hon

Bydd yn rhaid ichi ddefnyddio'r ffurflen hon pe hoffech apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru ynghylch Adolygiad Buddsoddi 2023. Ni dderbyniwn apêl oni chyflwynir hi drwy lenwi'r ffurflen hon. Cyn llenwi'r ffurflen apelio, cynghorir chi'n gryf iawn i ddarllen 'Gweithdrefn Apelio – Adolygiad Buddsoddi' sy'n atodedig. Bydd yn rhaid ichi lenwi'r ffurflen apelio hon yn gyflawn, gan nodi sail eich apêl a rhesymau manwl.

Bydd yn rhaid ichi nodi'n glir a diamwys unrhyw ddetholiad o'ch Cyflwyniad gwreiddiol y cyfeiriwch ato yn y ffurflen hon. Nid ystyrir unrhyw wybodaeth ddiwygiedig neu ychwanegol. Bydd yn rhaid i'r apêl fod yn berthnasol dim ond i'r wybodaeth a roesoch eisoes yn rhan o'ch Cyflwyniad ac a gafodd ei ystyried (neu a ddylai fod wedi'i ystyried) yn ystod proses benderfynu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'n hanfodol yr anfonir copïau o'r wybodaeth hon gyda'r ffurflen apêl. Ystyrir eich apêl ar y cychwyn gan Adolygydd Annibynnol a allai wrthod eich apêl os nad yw'r ddogfennaeth hon yn amgaeedig gyda'r ffurflen apelio hon.

Bydd yn rhaid inni gael y ffurflen apêl hon yn y cyfeiriad a nodir ar y tudalen olaf. Bydd yn rhaid iddo ein cyrraedd mewn 21 diwrnod calendr o ddyddiad rhoi gwybod am y bwriad i apelio'r penderfyniad. Cadwch gopi llawn o'ch apêl. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich apêl yn ein cyrraedd erbyn y dyddiad cau.


 

Adran 3: Sail eich Apêl

Cewch dim ond apelio ar y sail sydd gennych dystiolaeth sy'n arddangos un neu ragor o'r canlynol (ticiwch bob un sy'n gymwys):

           Ni ddilynasom y gweithdrefnau cyhoeddedig am asesu eich Cyflwyniad.

           Camddeallasom ran arwyddocaol o'ch Cyflwyniad.

           Ni chymerasom sylw o wybodaeth berthnasol.


 

Adran 4: Sail yr Apêl

Yma dylech esbonio sail eich apêl. Dylech nodi pam yr ystyriwch fod y rhesymau uchod yn wir a pham y credwch fod penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru yn anghywir.

Mae'n bwysig ichi fod mor benodol ag y gellwch. Er enghraifft, ni fydd cwyn gyffredinol am gamymddwyn heb unrhyw sail ffeithiol iddi yn debyg o fod yn sail ddigonol ar gyfer apêl. Dylech gyfeirio at unrhyw ddeunyddiau eraill, sydd yn eich Cyflwyniad gwreiddiol, sy'n cefnogi eich apêl. Parhewch ar dudalen ar wahân neu ragor os oes angen.

Sail fy apêl yw:

Click or tap here to enter text.

Atodaf y dogfennau canlynol:

Click or tap here to enter text.

A ninnau'n gynrychiolwyr a nodwyd gan y sefydliad sy'n apelio, cyflwynwn yr apêl hon.

Llofnod: Click or tap here to enter text.

Printiwch eich enw: Click or tap here to enter text.

Swydd: Click or tap here to enter text.

Dyddiad: Click or tap here to enter text.

Llofnod: Click or tap here to enter text.

Printiwch eich enw: Click or tap here to enter text.

Swydd: Click or tap here to enter text.

Dyddiad: Click or tap here to enter text.

Cyfeiriad gohebu:

Click or tap here to enter text.

E-bostiwch y ffurflen apelio hon a'r dogfennau ategol i'r cyfeiriad hwn:

apeliadau@celf.cymru

gan nodi'n glir “Apêl” yn llinell bwnc yr e-bost.

Bydd yn rhaid i'ch apêl lawn ein cyrraedd erbyn 4pm 21 diwrnod calendr o ddyddiad rhoi gwybod am y bwriad i apelio'r penderfyniad.